Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


03 Whitson


03 ardal gymeriad Whitson: pentref unigryw a gynlluniwyd. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 041)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Cynlluniwyd y dirwedd hynod ddiddorol hon yn ystod y cyfnod uwch ganoloesol gan y mynachod yn Allteuryn o bosibl. Yn wreiddiol, gosodwyd cyfres o leiniau cul hir, â "chlawdd ffen" o boptu iddynt. Ymestynnwyd y lleiniau hyn sawl gwaith ar ôl hynny. Amgaewyd y tir comin yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae prinder deunydd dogfennol ar gyfer Whitson, er bod y cyd-destunau posibl ar gyfer ei greu, gan Fflemiaid, Priordy Allteuryn, neu arglwyddi Caerllion, yn galluogi datblygu cysylltiadau diwylliannol cryf. Mae arolwg yn dyddio o 1656 yn disgrifio'r system ddraenio yn fanwl.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Nodweddion draenio (ffosydd draenio, cloddiau, a chefnau/draeniau agored, gan gynnwys Monksditch sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol), anheddiad llinellol ar yr hen dir comin, cloddiau ffeniau, lonydd gwyrdd, caeau cul hir, coed wedi'u tocio

Mae'r dirwedd hon yn ymestyn dros ganol Gwastadedd Caldicot. I'r gorllewin mae Monksditch, i'r gogledd/dwyrain mae'r ffordd o amgylch Whitson, ac i'r de mae lôn werdd.

Y brif elfen yw anheddiad llinellol ar hyd "comin stryd", a chaeau cul, hir iawn sydd wedi'u gosod yn hydredol i'r dwyrain. Mae wedi'i amgáu gan ffordd â metlin arni i'r gogledd/gorllewin; mae lôn werdd ardderchog ar hyd Parish Reen i'r de/dwyrain. Mae prif stryd y pentref yn rhedeg i lawr canol yr hen dir comin, yn arwain at y ffermydd, y safai pob un ohonynt yn wreiddiol ar ymyl y tir comin, sy'n sefyll ychydig yn ôl o'r ffordd bresennol. Mae Monksditch yn rhedeg i lawr ochr orllewinol yr hen dir comin. Mae rhes ardderchog o goed wedi'u tocio yn rhedeg ar hyd Ffos Bowlease.

Dyma enghraifft unigryw a thra diddorol o dirwedd ac anheddiad llinellol a gynlluniwyd yn dyddio o'r ddeuddeg ganrif i'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n unigryw ar y Gwastadeddau. Ceir ystod gydlynus o nodweddion tirwedd sy'n rhoi i'r ardal werth grwp uchel iawn (ee Monksditch, yr hen dir comin, cyfres o gloddiau ffeniau, lonydd gwyrdd).

Collwyd nifer o ffiniau ond mae gafaelion wedi'u cadw mewn cyflwr da ac mae'r patrwm o gaeau cul hir wedi goroesi yn y bôn. Yn edrych i lawr ar yr ardal y mae'r Gwaith Dur, er bod coed a blannwyd yn ei guddio o'r golwg i raddau; mae angen cuddio tomenni lludw i'r gogledd-ddwyrain o'r golwg hefyd.

Ceir llawer o wrychoedd prysglog a gwrychoedd llawn coed (yn arbennig yn y pentref), er bod eraill wedi'u torri neu ar goll. Oherwydd hyn, a'r ffaith bod rhai ffiniau wedi'u colli, mae'r dirwedd yn eithaf agored mewn mannau, er ei bod yn dal i gadw'r patrwm pwysig o gaeau cul hir.

At ei gilydd, tirwedd gydlynus gras bwysig iawn ydyw, sy'n dal yn gyfan i raddau helaeth. Mae'n enghraifft ardderchog o drefedigaeth a sefydlwyd/tir a adferwyd gan y Saeson yn y Gororau.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk